Mae'r Cyngor Sir wedi cyhoeddi dogfen o dan y teitl "Cytundeb Partneriaeth rhwng y Blaid Lafur a'r Grŵp Annibynnol Gweithio gyda'n gilydd i greu gwell Sir Gaerfyrddin" (dogfen uniaith Saesneg, wrth gwrs). Wel, rhan ohoni a bod yn fanwl gywir, gan fod y cymalau sy'n disgrifio sut yn union y bydd y ddwy blaid yn cydweithio yn gyfrinachol.
"Trafodir" y cytundeb cyn cael ei dderbyn yn unfrydol gan y Bwrdd Gweithreddol mewn cyfarfod ddydd Llun nesaf.
Heb roi unrhyw ffigyrau na thargedau pendant, mae'r cytundeb yn mynd ati i ddisgrifio gweithgareddau a blaenoriaethau'r cyngor, gan gynnwys hamdden a moderneiddio addysg (h.y. cau mwy o ysgolion bach), Bwcabus a band llydan. Mae yna sôn am adfywio a'r amgylchedd, diogelu plant ac hybu twristiaeth, sbwriel a gofal cymdeithasol.
Ond nid oes yr un gair am y Gymraeg. Yn nunlle. Dim byd. Nada. Rien o gwbl.
Dim ond dweud.
Friday, July 27, 2012
0 comments:
Post a Comment