Mae’n ofynnol ar y Cyngor Sir i gyhoeddi adroddiad bob blwyddyn i ddangos i ba raddau mae'r awdurdod yn cydymffurfio â'i Gynllun Iaith.

Er bod y Cynllun Iaith yn llawn datganiadau crand, mae'r targedau eu hun yn hynod o ddiymhongar.

Dyma rai o amceinion y Cynllun:
  • meithrin dwyieithrwydd ar draws y Cyngor ac ym mhob cwr o Sir Gaerfyrddin
  • galluogi pawb sy’n defnyddio gwasanaethau’r Cyngor, neu’n cyfrannu at y broses ddemocrataidd, i wneud hynny trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg yn ôl eu dewis personol
  • gwella safon y gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg ar draws yr adrannau
  • gofalu bod holl bolisïau, strategaethau, prosiectau a phartneriaethau’r Cyngor yn hyrwyddo defnyddio’r Gymraeg ac yn annog pobl i’w defnyddio’n amlach
  • datblygu gallu disgyblion ysgol a myfyrwyr o bob oedran i fod yn gadarn ddwyieithog ac yn llythrennog yn y ddwy iaith, er mwyn mynd yn aelodau cyflawn o’r gymuned ddwyieithog y maen nhw’n byw ynddi
  • codi hyder a gwella sgiliau dwyieithog staff, cynghorwyr a thrigolion y sir
Yn 2009/10 cafodd 1.7% o staff y Cyngor rywfaint o hyfforddiant Cymraeg, ac roedd hynny'n iawn yn ôl y Cyngor a'r diweddar Fwrdd Iaith. 

Bellach, mae'r adroddiadau i gyd wedi diflannu o wefan y Cyngor, ac felly dydyn ni ddim yn gwybod sut mae'n cydymffurfio â'r Cynllun.

Os ewch chi i dudalen sy'n ymdrin â'r iaith, fe welwch y frawddeg hon:

Ewch i frig y dudalen ar yr ochor dde i weld yr Adroddiad Blynyddol.

Does dim byd yna.

Ar waelod y dudalen mewn bocs sy'n cynnwys "Linciau Allanol" mae'r Cyngor yn cyfeirio at "adroddiadau blynyddol blaenorol i Fwrdd yr Iaith". Daw'r neges hon os cliciwch arnyn nhw:

Access denied.

You do not have permission to perform this action or access this resource.

Fel dinesydd da Sir Gaerfyrddin penderfynais i roi gwybod i'r Cyngor nad oedd yr adroddiadau ar gael.

Mae linc handi iawn ar dudalen flaen y wefan Gymraeg: Rhoi gwybod am rywbeth.

Clic. Daw tudalen a linc newydd: Gwneud cwyn, sylw neu ganmoliaeth. Clic.

Daw tudalen liwgar newydd: 


Complaints and Compliments Procedure 

Have Your Say logo 

Tudalen sy'n esbonio sut i gwyno yn Saesneg. Yna cliciwch ar y cyfeiriad e-bost yma:

 

complaints@carmarthenshire.gov.uk

 

Ychydig iawn o bobl sy'n defnyddio gwasanaethau Cymraeg y Cyngor, mae'n debyg. Y syndod yw bod yna unrhywun o gwbl sy'n mynd i'r drafferth.











0 comments:

Popular Posts

Blogger templates

Blogger news

Blogroll

Archive