Yn sgîl canlyniadau trychinebus y Cyfrifiad mae Cymdeithas yr Iaith yn mynd ati i ddangos ein bod ni eisiau byw mewn cymuned Cymraeg ei hiaith trwy addunedu byw yn Gymraeg.

Y prif fwriad gyda'r addunedau yw eu cyflwyno i'r Cyngor Sir ar Fawrth y 1af ond byddwn ni'n defnyddio manylion pobl er mwyn cysylltu gyda nhw i'w diweddaru am yr ymgyrch yma'n benodol a weithiau am ddigwyddiadau eraill.

Mae'r ffurflenni ar gael yn Siop y Wiber, Iago (siop lyfrau) a Chwmni Iaith (Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad) tan ddiwedd yr wythnos nesaf. Dim ond enw, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost sy eisiau - mae'n hawdd!

Ewch amdani i ddangos bod yr iaith Gymraeg yn bwysig i chi!

0 comments:

Popular Posts

Blogger templates

Blogger news

Blogroll