Peth da iawn oedd gweld cynifer o bobl yng Nghaerfyrddin heddiw er gwaetha'r oerfel, yn enwedig y teuluoedd gyda phlant bach a nifer sylweddol o bobl ifainc. Wedi gwrando ar yr areithiau angerddol, does dim dwywaith amdani ni fydd yr iaith Gymraeg yn marw yn Sir Gaerfyrddin heb frwydr ffyrnig.
Cawsom anerchiad gan Phil Grice (Llafur), Maer Caerfyrddin, sy wedi dysgu Cymraeg, a chwarae teg iddo fe. Hyd y gwelais, fe oedd yn cynrychioli Plaid Lafur ar ei ben ei hunan. Doedd yr un cynghorydd 'annibynnol' i'w weld chwaith. Doedd dim arwydd o ddiddordeb ar ran arweinydd y Cyngor, Kevin Madge, nac unrhyw aelod arall o'r Bwrdd Gweithredol.
Clywsom hefyd i un o ddau ddirprwy brif weithredwr y Cyngor anfon e-bost at drefnyddion y Rali i ddweud y dylen nhw symud y Rali o Neuadd y Sir i rywle arall yn y dref "am resymau iechyd a diogelwch". Iechyd a diogelwch y swyddogion uwch eu hunain, mae'n debyg.
Mae'n amlwg nad yw 44% o bobl Sir Gaerfyrddin yn cyfrif yn nhyb y Cyngor Sir, felly.
Saturday, January 19, 2013
0 comments:
Post a Comment