***********************************************************
Wedi llyncu canlyniadau torcalonnus y cyfrifiad, mae'n amser mynd i'r gad dros y Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin. Fel mae pawb yn gwybod erbyn hyn, collodd y Sir dros 6,000 o siaradwyr Cymraeg yn ystod y degawd diwethaf, ac mae hynny'n cyfateb i ostyngiad o 6.4 y cant i 43.9% o'r boblogaeth. Am y tro cyntaf erioed, felly, mae'r iaith Gymraeg yn iaith y lleiafrif yn Sir Gaerfyrddin.
Mae yna sawl rheswm dros hynny: mewnfudiad, newidiadau demograffig, ffactorau unigryw megis presenoldeb poblogaeth ddinesig Llanelli yn y ffigyrau ac - nid yn lleiaf - agwedd y Cyngor Sir tuag at ei gyfrifoldebau am gefnogi a chryfhau lle'r iaith yn ein cymunedau ni.
Fe ddarlledwyd rhaglen arbennig o dda gan Adam Price flwyddyn yn ôl i gofio darlith Saunders Lewis yn 1962. Meddai Adam:
"Prif fyrdwn neges Saunders yw bod tynged yr iaith Gymraeg yn ein dwylo ni. Mae'r iaith Gymraeg yn fyw neu'n farw bob tro rydym ni'n dewis ei defnyddio hi neu beidio. Mae yna gyfrifoldeb ar unigolion ond mae yna gyfrifoldeb ar y genedl hefyd."
Cynigiodd Adam nifer o syniadau i sicrhau dyfodol yr iaith, gan gynnwys symud swyddi Cymraeg o Gaerdydd i'r gorllewin, creu awdurdod lleol newydd Cymraeg ei hiaith yn y gorllewin a newid polisiau tai a chynllunio. Mae "maniffesto byw" Cymdeithas yr Iaith yn debyg iawn i syniadau Adam ac yn rhoi sylfaen gadarn i'r ymgyrch dros ddyfodol yr iaith.
Ond dychwelwn at y Cyngor Sir. Nid yw arweinydd y Cyngor, Kevin Madge, byth yn siarad Cymraeg er bod cryn dipyn o Gymraeg ganddo. Mae dau ddirprwy arweinydd, sef Tegwen Devichand (Llafur) a Pam Palmer (Annibynnol), ac nid yw'r un ohonynt yn siarad Cymraeg. Dywedodd Pam Palmer yn ddiweddar y dylai'r Cyngor yrru llythyr i "the town whose name I shall not attempt to pronounce" (Machynlleth), a hithau yn aelod o arweinyddiaeth y Cyngor ers dros ddeng mlynedd.
Y nhw sy'n gyfrifol am bolisiau sy'n effeithio ar yr iaith yn uniongyrchol. Tybed, ydy hi'n afresymol i ddisgwyl iddynt osod esiampl dda i'n plant ni a gwella eu sgiliau Cymraeg?
I'r rheiny sy wedi mynychu cyfarfodydd y Cyngor llawn, mae presenoldeb rhes o swyddogion uwch o flaen y cynghorwyr yn olwg cyfarwydd, a phob un ohonynt yn ennill mwy na £100,000 y flwyddyn.Yn y cyfarfod diwethaf dim ond dau allan o'r pump swyddog uwch oedd yn eistedd yn ddistaw iawn o flaen y Cadeirydd sy'n medru'r Gymraeg, heb sôn am y Prif Weithredwr (£209,000 yn 2011-12).
Dylai medru cyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg fod yn angenrheidiol i bob swyddog uwch yn Sir Gaerfyrddin. Os ydym am gadw pobl dalentog a phobl ifainc yn y gorllewin, pam fod y Cyngor yn mewnforio cymaint o swyddogion di-Gymraeg â chyflogau sy'n dod â dŵr i'r llygaid? Mae yna bobl Cymraeg eu hiaith sy'n gallu gwneud y swyddi hyn yn llawn cystal os nid gwell na'r criw yna.
A yw hi'n syndod, felly, bod y Cyngor Sir wedi cau cynifer o ysgolion gwledig, bod cyllideb y Mentrau Iaith yn cael ei haneru, bod y Cyngor yn wfftio dadlau Bwrdd yr Iaith a chymunedau yn erbyn datblygiadau tai anferth?
Y gair olaf i'r Cynghorydd Alun Lenny:
0 comments:
Post a Comment