Cyflwynodd Cymdeithas yr Iaith restr o 1,500 o enwau pobl leol sy eisiau byw yn Gymraeg i gynrychiolwyr y Cyngor Sir yng Nghaerfyrddin y bore yma. Daeth rhyw 50 o bobl i weld y seremoni fer, gan gynnwys Heledd Cynwal, yr actor Andrew Teilo a nifer o gynghorwyr.

Ar ôl ei hannerch swyddogol tynnodd Cadeirydd y Cyngor, Siân Thomas, ei bling a rhoi araith angerddol. Roedd rhaid gweithredu mewn argyfwng yn hytrach na sefydlu pwyllgorau newydd, meddai, gan ychwanegu ei bod hi'n bwrw ei phen yn erbyn "difaterwch ac hyd yn oed atgasedd" tuag at yr iaith yn Neuadd y Sir ers blynyddoedd mawr.

Fel arall, roedd ymateb y Cyngor Sir i'r digwyddiad yn hynod o siomedig. Roedd Arweinydd y Cyngor, Kevin Madge, i fod i siarad ond newidiodd ei feddwl. Fe ddaeth y Cynghorydd Keith Davies, aelod o'r Bwrdd Gweithredol â chyfrifoldeb dros yr iaith, yn ei le. Ddywedodd Mr Davies yr un gair.

Y peth pwysicaf i'r Cyngor Sir, mae'n ymddangos, oedd cuddio'r Mercs swyddogol rhag aelodau o'r Gymdeithas ar ôl i limo Leighton Andrews gael ei feddiannu gan brotestwyr yn Nhŷ Croes.


0 comments:

Popular Posts

Blogger templates

Blogger news

Blogroll