Diweddariad 4 Mawrth

Yn ôl y sôn cawn ni erthygl arall eto yn y Journal yr wythnos hon. Mae grŵp o wrthwynebwyr yn honni nad yw Cwmni Sbectrwm sy'n arwain y cyfarfod ar 7 Mawrth yn annibynnol, ac maent wedi datgladdu astudiaeth o Ganada sy'n dod i'r casgliad bod dwyieithrwydd yn niweidiol.

Mae yna astudiaethau ar gael hefyd sy'n dweud bod yfed potelaid o wisgi a smoco pecyn o ffags bob dydd yn llesol, hyd y gwn i.

__________________________________________________________

Er na fu'r un gair am sgandal treuliau Prif Weithredwr Cyngor Sir Caerfyrddin i'w weld yn nhudalennau'r Carmarthen Journal yn ddiweddar, cafodd darllenwyr y papur ffrwd o erthyglau am benderfyniad llywodraethwyr Ysgol y Ddwylan yng Nghastell Newydd Emlyn i droi'r ysgol yn un Gymraeg.

Y gwir amdani yw nad oes fawr o ddim wedi digwydd ers i'r llywodraethwyr gyhoeddi eu penderfyniad ym mis Ionawr. Y ffeithiau yw bod yr ysgol am gael gwared ar y ffrwd Saesneg dros gyfnod o bum mlynedd ar ôl ymgynghoriad eleni. Dyna i gyd.

Er gwaethaf diffyg llwyr o newyddion am y peth, mae'r papur yn gwneud ei orau glas i godi twrw ac arllwys petrol ar y tân. Yn y rhifyn diwethaf dyfynnir rhywun di-enw yn rhagweld y bydd llu o bobl yn symud o'r ardal os na fydd ffrwd Saesneg ar gael mwyach. Gallai hyn fod â goblygiadau dirfawr, meddai Mr neu Mrs Anhysbys.

A fydd rhaid i'r ymsefydlwyr gwynion harneisio eu ceirt a ffoi'n ôl i Fognor, Bolton a Birmingham rhag y brodorion cyntefig a'u hiaith chwerthinllyd? Wir?

Am ryw reswm neu'i gilydd, doedd dim lle yn y papur hyd yn hyn i rieni sy'n cefnogi'r cynllun.

Mae'r ysgol ei hun wedi trefnu cyfarfod agored gydag arbenigwyr mewn addysg ddwyieithog yr wythnos hon. Doedd dim sôn am hynny yn y Journal, wrth gwrs. Tybed a fydd Mr a Mrs Anhysbys yno?

0 comments:

Popular Posts

Blogger templates

Blogger news

Blogroll