5 Mehefin 2013: Y Cynghorydd Mair Stephens, sy'n aelod Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin, yn cael ei phenodi i fod yn 'bencampwr' dros yr iaith Gymraeg.
12 Mehefin 2013: Dadl ffurfiol yn siambr Neuadd y Sir yng Nghaerfyrddin i drafod cynnig gan Alun Lenny sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i gryfhau TAN20 yn sylweddol a sefydlu corff annibynnol i asesu'r effaith bosib ar yr iaith Gymraeg mewn ceisiadau cynllunio unigol.
Peth prin iawn yw cael clywed dadl ffurfiol am yr iaith Gymraeg yn siambr Neuadd y Sir yng Nghaerfyrddin, a phrinach fyth yw cyfraniadau Mair Stephens at unrhyw ddadl gyhoeddus.
Felly, beth oedd ymateb yr hen gynghorydd "annibynnol"?
Distawrwydd llwyr cyn pleidleisio yn erbyn y cynnig.
0 comments:
Post a Comment