Er dryswch i'r rhai ohonoch chi welodd gyfarfod diwetha'r Cyngor Sir, mae tudalen Gymraeg y Teifiseid wedi cyhoeddi'r adroddiad canlynol:
"Mae Cynghorwyr Sir Gaerfyrddin wedi cytuno bod angen crisialu a chryfhau'r cyfarwyddyd presennol ynghylch effaith cynllunio ar y Gymraeg.
Gan drafod y mater yn ystod Cyfarfod Llawn y Cyngor, cyfeiriodd y Cynghorwyr at yr alwad yn ddiweddar gan Brif Weinidog Cymru am sylwadau ar y canllawiau a'r polisïau cynllunio mewn perthynas â'r Gymraeg, sef Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 20.
Gofynnwyd i aelodau Grwp Gorchwyl a Gorffen trawsbleidiol - a sefydlwyd yn ddiweddar i roi sylw i'r Gymraeg a'r Cyfrifiad - ystyried y mater hwn yn eu trafodaethau.
Ar ôl ymchwilio'n drylwyr i'r mater bydd yr aelodau'n cyflwyno argymhellion ynghylch y sylwadau y dylid eu rhoi i Lywodraeth Cymru.
Yn ystod y cyfarfod dywedodd y Cynghorydd Callum Higgins, a gyflwynodd welliant i'r rhybudd o gynnig a roddwyd gerbron y Cyngor gan y Cynghorydd Alun Lenny: "Rydym i gyd yn gytûn bod angen cryfhau Nodyn Cyngor Technegol 20."
[Nid yw'r erthygl wreiddiol ar gael ar-lein]
Y gwir amdani yw bod y Cyngor Sir wedi penderfynu peidio ag ymateb i alwad Carwyn Jones. Yn ôl pob tebygrwydd bydd y Llywodraeth yn cyflwyno'r canllawiau newydd eleni, ac ni fydd y Grwp Gorchwyl a Gorffen yn cyhoeddi eu hargymhellion tan 2014.
Mae'r Cyngor Sir, dan arweiniad Plaid Lafur a'i chyfeillion "annibynnol", yn colli'r bws yn fwriadol, mae'n debyg.
Thursday, June 20, 2013
0 comments:
Post a Comment