Cyflwyno Siarter Sir Gâr |
Mae'r Siarter yn galw ar y Cyngor i symud tuag at gyflawni ei waith trwy gyfrwng y Gymraeg.
Fel mae'n digwydd, bydd nifer o swyddogion uwch sy ddim yn siarad Cymraeg yn ymddeol eleni. Dyma gyfle da i ddangos bod y Cyngor yn newid ei agwedd trwy Gymreigio ar y lefel uchaf, fe fyddech chi'n meddwl. Er enghraifft, mae'r Cyngor yn chwilio am Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Technegol newydd ar hyn o bryd (cyflog £111,000-£119,000).
Os gwnewch chi gais am y swydd hon, mae 'na restr hir o sgiliau hanfodol, gan gynnwys medru siarad Cymraeg - print mân: dim ond hyd at "Lefel 2", a pheidiwch â phoeni os nad ydych yn siarad yr un gair o Gymraeg -"Darperir hyfforddiant a chymorth er mwyn cyrraedd Lefel 2 cyn pen 6 mis ar ôl dechrau'r swydd".
Beth yn union yw Lefel 2? Mae'r Cyngor yn esbonio:
Ystyr hyn yw:
• Yn gallu cyfarfod â phobl yn y gwaith a'u cyfarch
• Yn gallu cyflwyno cyfarfodydd yn Gymraeg
• Yn gallu ynganu enwau llefydd lleol ac enwau prif lefydd Cymru yn Gymraeg
• Yn gallu ynganu geirfa allweddol maes Awdurdod Lleol yn Gymraeg
• Yn gallu deall sgwrs syml yn Gymraeg ac yn gallu cyfrannu at hynny.
Mewn geiriau eraill, cewch chi gwpwl o wersi i ddysgu sut i ynganu "Bore da", "Llanelli" (mae gallu dweud Machynlleth a Rhandirmwyn yn perthyn i Lefel 3, mae'n debyg), "Croeso", "Cyngor Sir" a "Diolch yn fawr".
Beth am ddeall a chyfrannu at sgwrs syml? Mae hynny'n swnio'n reit uchelgeisiol. Dyma sgwrs syml:
A. Bore da. Sut dych chi heddiw?
B. Bore da. Iawn, diolch. A chi?
A. Wedi blino. Hwyl!
B. Hwyl!
Ac wedyn cewch chi dystysgrif i ddangos bo' chi wedi cwrdd â'r meini prawf ac yn siarad Cymraeg, achos bod gallu siarad Cymraeg yn hanfodol.
Man a man i chi roi trwydded yrru i rywun sy'n gallu gwahaniaethu rhwng car a bws.
.
0 comments:
Post a Comment