Yn sgil canlyniadau'r Cyfrifiad sefydlodd y Cyngor Sir weithgor trawsbleidiol i ystyried sut y gallai'r Cyngor a'r gymuned ehangach fynd i’r afael â’r dirywiad yn y niferoedd o siaradwyr Cymraeg yn y sir.

Mae'r grŵp yn gwahodd aelodau o'r cyhoedd i gyfrannu drwy naill ai ysgrifennu at Gweithgor y Cyfrifiad, Polisi a Chynllunio Cymunedol, Neuadd y Sir, Caerfyrddin SA31 1JP neu anfon e-bost at IaithGymraeg@sirgar.gov.uk erbyn 31 Gorffennaf gydag unrhyw  syniadau a sylwadau. 

O'r hyn rwy'n ei ddeall, mae'n debygol y bydd y gweithgor yn ymestyn y dyddiad cau, ond mae'n hynod o bwysig bod cymaint o bobl ag sy'n bosib yn cyfrannu eu syniadau at y grŵp.

Ceir nifer o syniadau ac awgrymiadau ymarferol yn Siarter Sir Gâr Cymdeithas yr Iaith (dolen yma), ond gallwn ni fod yn sicr bod gan ddarllenwyr y blog yma ragor o syniadau da. 

Er enghraifft, beth am ddefnyddio cytundebau 106 a grantiau i sefydlu cronfa addysg Gymraeg er mwyn ariannu pobl ifanc a phobl mewn gwaith sydd am wella eu sgiliau Cymraeg?

0 comments:

Popular Posts

Blogger templates

Blogger news

Blogroll