Yn sgil protest ddi-drais Cymdeithas yr Iaith yn erbyn polisi iaith M&S yng Nghaerfyrddin heddiw, galwodd rheolwr diogelwch yr heddlu a chyhuddo un o'r aelodau o ymosod.

Roedd yr aelod, dyn o Lanelli, yn aros wrth y tiliau i gael siarad â rheolwraig y siop pan gyrhaeddod dyn arall â walky-talky, a gwthio ei ffordd drwy'r rhes.

Gan fy mod i'n sefyll ychydig droedfeddi oddi wrth y til, roedd hi'n amlwg taw y dyn diogelwch oedd yn hwpo a neb arall. Gwylltiodd menyw nad oedd yn rhan o'r brotest oherwydd ymddygiad ymosodol y dyn boliog ag acen Cocni.

Cyrhaeddodd rheolwraig y siop wedyn, ac mi wnaeth hithau ei gorau glas i esbonio'r sefyllfa. Bydd cyfarfod arfaethedig o'r bwrdd ym mis Medi, meddai. Roedd y staff lleol wedi bod yn pwyso ar y cwmni i newid ei bolisi.

Ar wahân i un arwydd (Talu a Chasglu) yn ei Neuadd Fwyd, mae Marks a Spencer Caerfyrddin yr un peth ag unrhyw M&S ar ochr arall Clawdd Offa. Gallwch chi brynu Fruit and Vegetables neu fanteisio ar eu special offers. Colchester, Caergrawnt, Coventry, Caerfyrddin - does dim ots, Saesneg yw iaith M&S, ac mae eu cwsmeriaid Cymraeg yn gorfod derbyn pethau fel y maen nhw.

Chafodd y protestiwr mo'i arestio, a bydd yr heddlu'n archwilio ffilm CCTV o'r digwyddiad.

0 comments:

Popular Posts

Blogger templates

Blogger news

Blogroll